|
DAMWAIN LOFAOL DDYCHRYNLLYD YN NGHWMAMAN.
Deg o Bersonau wedi eu Lladd.
GYHUDDO GLOWR O ACHOSI Y DDAMWAIN.
Boreu dydd Mercher diweddaf, yr 16eg cyfisol,
cymerodd damwain ddychrynllyd le yn nglofa y Garnant, Cwmaman,
pryd y collodd deg o bersonau eu bywydau mewn modd hynod ddisymwth.
Yr oedd y gweithwyr wedi dyfod at ben y pwll yn gynt nag arfer,
a hynu er myned i angladd gwraig i un o'r gweithwyr. Am bedwar
o'r gloch, dechreuodd y gweithwyr gael eu gostwng i'r pwll,
yr hwn sydd 75 o latheni o ddyfnder, ac aeth pob peth yn dda
gyda y pum' llwyth cyntaf a ddisgynasant. Wedi I 30 o weithwyr
fyned i lawr, gostyngwyd ceffyl, gyda'r hwn yr aeth un dyn.
Yn nesaf daeth y cyfeillion a hyrddiwyd yn ddirybudd I dragywyddoldeb.
Y mae yn ymddangos mai wyth yw y rheol i fyned i lawr, ond y
tro hwn cawn fod nifer o fechgyn yn dewis myned yn nghyd, wedi
gwneud y rhif yn deg. Dywed y bancwr, gwaith yr hwn ydyw edrych
ar ol y nifer, na sylwodd efe fod dros y nifer priodol ar y
cage ar y pryd. Ond nid oeddynt ond wedi dechreu cael eu gostwng,
pryd y torodd y rhaff, a gollyngwyd y trueiniaid bendramwngwgl
i'r gwaelod, y rhai a gafwyd wedi hyny oll yn feirw. Barna y
meddyg eu bod o leiaf yn ddideimlad cyn cyrhaedd gwaelod y pwll,
oherwydd y cyflymdra yr oeddynt yn disgyn.
Codwyd y cyrff mor fuan ag yr oedd yn bosible, y rhai
oeddynt a ganlyn:-
1. David Roberts, Brynaman, priod a phump o blant.
2. Thomas Bevan, Cwmaman, priod a thri o blant.
3. William Lake, Cross Inn, priod a thri o blant.
4. Thomas Michael,Cwmaman, priod.
5. Jno. Evan Jones, Cwmaman, sengl.
6. John D. James,sengl, Cwmaman.
7. Evan Roberts, Brynaman, bachgenyn.
8. Thomas Roberts, Brynaman, eto.
9. Daniel Rees, Cwmaman,eto.
10. Edward Morgan, Brynaman, eto. |
Ymgasglodd tyrfa yn fuan i gymydogaeth y lofa,
ac yr oedd y lle yn un torcalonus -gwragedd, plant,mamau, brodur
a chwirorydd, yn wylo (heb fynu eu cysuro) am eu hanwyliad,
y rhai nad oeddynt.
Y gofyniad yn awr ydyw, pa fodd y torodd y rhaff, i'r hwn ofyniad
nid oes atebiad wedi ei gael hyd yn hyn, ond afallai y ceir
pan y cymer y trengholid le.Y mae rhaff y pwll arall, yn cael
ei harchwilio bob dydd, ac os ceir rhyw fai arni, ni ollyngir
neb i lawr wrthi. Yn Medi, 1882, y rhoddwyd y rhaff hon yn y
pwll.
Yn ddiweddarach yr ydym yn cael fod Thomas Michael, glowr, Cwmaman,
wedi cael ei gymeryd i fyny ar y cyhuddiad o fod wedi achosi
marwolaethy deg person a syrthiasant i'r pwll. Cymerwyd ef i'r
ddalfa boreu dydd Sul. Yr hyn a ddywedir ydyw, fod y carcharor
ar y boreu glarus, yn anawdurdodol wedi cymeryd gofal y keeps
ar ben y pwll, ac wedi troi y points trwy offerynoliaeth y switch
cyn fod yr holl cage yn cynwys y dynion wedi myned o'r golwg,
a thrwy hyny yn rhoddi jerk sydyn i'r rhaff. Y mae yn cael ei
ddweyd y dygir digon o dystiolaethau I brofi fod Michael wedi
ymyraeth ar y adeg.
ODDIWRTH OHEBYDD ARALL.
Bydd boreu dydd Mercher, yr 16eg cyfisol, yn ddydd a hir gofir
yn Nghwmaman a'r ardaloedd cyfagos yn gyffredinol, o herwydd
y ddamwain druenus a gymerodd le yn Mhwl y Garnant yn y lle
uchod, trwy i raff y pwll dori wrth ostwng y dynion, ac I ddeg
o'n cydweithwyr anwyl gael eu hyrddio i dragwyddoldeb megys
ar darawiad amrant. Yr oedd elfenau natur boreu y ddamwain megys
yn gwenu ar bawb a phobpeth o amgylch -yr hin yn deg a dymunol,
a phawb yn edrych yn hapus wrth weled a theimlo y tywydd gystal
ar yr amser hwn o'r flwyddyn, a dim yn annymunol wedi dygwydd
yn ddiweddar yn y cylch yma i aflonyddu a chyffroi teimladau
preswylwyr y cylchoedd cyfagos. Ond yn nghanol y dedwyddwch
a'r hapusrwydd hwn, wele y newydd torcalonus uchod yn taro ar
ein clustiaul fel taran. "Wel, wel," meddai pawb ar
unwaith, "pwy all y trueiniaid fod?" gan wneud eu
ffordd mor fuan ag oedd bosibl tua'r lofa gyda theimladau drylliog
a gofidus. Erbyn cyrhaedd genau y lofa, wele y newydd blin oedd
wedi dyfod ar ein clustiau ychydig amser yn ol yn cael ei wireddu
-deg o elorau ar ben y lofa, a phawb yn edrych fel pe buasai
yr amgylchiad wedi ei syfrdanu. Yn mhen ychydig amser wele gyrff
y trueiniaid yn dechreu cael eu codi i fyny wedi iddynt eu rhwymo
mewn cadachau ar waelod y pwll, am fod rhai o'r cyrff wedi ei
hanafu yn druenus. Yr oedd miloedd o ddynion yn sefyll ar ben
y lofa.
Oddeutu haner awr wedi naw dechreuwyd ffurfio yn orymdaith,
er cludo y cyrff i'w cartrefioedd, lle yr oeddynt yn iach a
chysurus ychydig oriau cyn hyny -rhai o honynt gyda'u gwragedd
a'u plant, a rhai gyda'u brodyr, a'u chwiorydd, a'u rhieni,
yn mwynhau iechyd ac hapusrwydd cystal ag erioed, heb feddwl
fawr am yr amgylchiad torcalonus a thruenus oedd i'w cyfarfod
mor fuan. Trigianai pedwar o honynt yn Brynaman, pump yn Cwmaman,
ac un yn Cross Inn. Ar y dydd cyntaf o Fedi, 1847, y dygwyddodd
damwain gyffelyb yn y parthau yma o'r blaen, trwy i'r rhaff
dori yn mhwll Gwauncaegurwen, pryd y cyfarfyddodd chwech o ddynion
a'u marwolaeth.
Dydd Iau canlynol, cynaliwyd trengholiad ar chwech o'r cyrff
yn y Raven Inn, Cwmaman, pryd y gohiriwyd ef hyd y 29ain cyfisol.
Dydd Gwener, cynaliwyd trengholiad ar gyrff David Roberts ac
Edward Morgan yn y Farmer's Arms, Brynaman. Yr un dydd, cynaliwyd
trengholiad ar gyrff Evan Roberts a Thomas Roberts yn y Gwynne
Arms, Brynaman, pryd y gohiriwyd y ddau a gynaliwyd yma hyd
Chwefror 5fed.
Y dyddiau Gwener a Sadwrn, claddwyd gweddillion marwol y deg
yn ngwahanol fynwentydd y cylch.
|