Elegy To Those Killed In Garnant Colliery, January 1884
Gan William Owen (Gwilym Meudwy)
By William Owen (Gwilym Meudwy)
Mewn coffadwriaeth alarus am y ddamwain ddifrifol a gymerodd le ym Mhwll Perkins, Cwmaman, bore dydd Mercher, Ionawr 16 fed 1884. Bu farw deg o weithwyr, un ohonynt ond yn 13eg oed.
In sad remembrance of the serious accident that took place in Perkins Pit, Cwmamman, Wednesday morning, January 16 1884. Ten workmen died, one of them only 13 years old.
O! Fy Nuw, rho nerth i draethu
Ar fath hanes o'r fath hon,
Gymerodd le yng Nglofa Perkins,
Gyrrwyd pawb yn glaf o'r bron;
Ar yr unfed dydd ar bymtheg
O fis Ionawr, fore syn,
Yn y flwyddyn wyth deg pedwar,
Dyna'r adeg ydoedd hyn.
William Lake a Thomas Michael,
Thomas Bevan, John D. James,
John Evan Jones a Daniel Williams
'Welwyd yma yn y rhes;
Dafydd Roberts o Frynaman,
Evan Roberts, ie'n siwr,
Thomas Roberts, Edward Morgan, -
Dyna'r oll i chwi, bob gwr.
Deg o ddynion gweddol ieuanc
Hyrddiwyd ar un eiliad lawr,
A'u bywydau i'r bytholfyd
I wyddfod barn y Brenin Mawr.
Rai ohonynt â theuluoedd
Sydd mewn galar ar eu hôl,
Boed i'r cyfryw i ymddiried
I Ragluniaeth lanw'u côl.
Yn fwy cynnar aeth y cyfryw
Fore heddiw at eu gwaith,
Er cael bod yn rhydd i fyned
Hebrwng un i'r beddrod llaith;
Ond anffodus iawn i'r eithaf
Y rhaff a dorrodd lawr yn garn,
Ac a hyrddiodd hwythau druain
Yn ddisymwth oll i'r farn.
Felly gwelir rhywrai eraill
'Nhebrwng hwythau tua'r bedd,
Hyd nes cân yr utgorn ola'
I'w cyfodi'n hardd eu gwedd;
Wedi'u gwisgo yng nghyfiawnder
Delw Iesu gwyn a glân,
A balmantodd ffordd i'r nefoedd
I glodfori fawr a mân.
Bydded hon o ddamwain sydyn
Fod yn rhybudd i'r holl wlad
Gael y cyflwr yn wir barod
Wynebu'r llwybr heb nacâd;
A wynebodd farn mewn eiliad
Deg o fodau dynol, iach,
Mae'r bywgraffiad yn ddifrifol,
Sobr sylw, - mawr a bach.